CROESO
Croeso i’n storfa newydd o wybodaeth am gerddoriaeth glasurol Cymru. Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, ein huchelgais ar gyfer y prosiect hwn yw dod â gwybodaeth a ddelir mewn nifer o archifau a llyfrgelloedd ynghyd mewn un man er mwyn creu adnodd sylweddol i roi mwy o amlygrwydd i gerddoriaeth offerynnol Cymru. Bydd yn bwynt cyfeirio hollbwysig i berfformwyr, athrawon ac ymchwilwyr, a bydd yn hwyluso archwiliadau i feysydd newydd o repertoire Cymru a all gyfoethogi rhaglenni cyngerdd ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt. Drwy greu’r adnodd hwn, gallwn roi mwy o amlygrwydd i Gymru fel cenedl gerddorol a sicrhau gwell dealltwriaeth o hanes cerddoriaeth Cymru.
Ar y gwefan hon fe welwch gronfa ddata y gellir ei chwilio sy’n dangos y gerddoriaeth allweddellau a gasglwyd o lyfrgelloedd ac archifau, yn ogystal â dolenni i’w cofnodion yn y catalogau perthnasol. Hefyd, mae’r wefan hon yn cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth am nifer o gyfansoddwyr o Gymru sydd yn y gronfa ddata allweddellau, yn ogystal ag amlygu adnoddau eraill allweddol: llyfrau, cyfnodolion a recordiadau.
Mae’r lleoliadau ar-lein yr ymchwiliwyd iddynt er mwyn dod â’r wybodaeth hon ynghyd yn cynnwys:
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cerddoriaeth Cymru
- Catalog Archifau Tŷ Cerdd
- Archives Hub
- Catalog Llyfrgell CBCDC
- Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor
- Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Caerdydd
- Catalogau Gweisg Cymru
- Llyfrgell Cyhoeddi Sgoriau Cerddoriaeth Rhyngwladol
Ar hyn o bryd, nid yw’r adnodd hwn yn cwmpasu gweithiau cyfansoddwyr sy’n dal yn fyw, ond mae’n rhoi mewnwelediad i repertoire cyfoethog a chudd y gorffennol, y mae llawer ohono’n parhau’n anhysbys a heb ei chwarae. Drwy ddwyn ynghyd y cofnodion hyn a’u gwneud yn hygyrch i’r cyhoedd, gobeithiwn rannu ein dyhead i integreiddio’r gweithiau’n fwy rheolaidd i raglenni datganiadau offerynnol a chaneuon.
Datblygir yr adnodd hwn ymhellach yn ystod 2021 a 2022 i gynnwys cerddoriaeth offerynnol: unawdau, gwaith gyda chyfeiliant a cherddoriaeth siambr.
Os hoffech gyfrannu gwybodaeth neu wneud sylw, cysylltwch â ni drwy
welshmusic@rwcmd.ac.uk.
Hanes yr adnodd
Crëwyd y storfa gan Zoe Smith, pianydd a Phennaeth Rhaglenni Ôl-radd (Cerddoriaeth) yn CBCDC. Drwy ei chyngherddau a’i recordiadau, mae wedi bod yn hyrwyddo’r repertoire piano o Gymru sydd wedi cael ei esgeuluso ers tro ac mae’n gobeithio y bydd yr adnodd newydd yn datblygu’r nod o ddod â’r corff hwn o gerddoriaeth offerynnol cyfoethog, ond sydd wedi’i esgeuluso, o Gymru i neuaddau cyngerdd ledled Cymru a thu hwnt. Y storfa hon yw’r cam cyntaf yn natblygiad “Adnodd cerddoriaeth offerynnol cenedlaethol Cymru”.