Adnodd Cerddoriaeth Offerynnol Cenedlaethol Cymru: Cronfa Ddata Allweddellau

Dilynwyd y prosesau canlynol wrth gasglu a chyflwyno’r wybodaeth sydd yn y gronfa ddata: 

  • Cyflwynir cyfansoddwyr yn nhrefn yr wyddor, ond gallwch chi ddidoli’r cofnodion yn wahanol gan ddefnyddio’r saeth ar ben pob colofn
  • Lle nad yw blynyddoedd geni neu farwolaeth yn hysbys, mae’r maes wedi’i adael yn wag
  • O fewn cynnyrch cyfansoddwyr unigol, rhestrir gweithiau yn nhrefn y wyddor 
  • Cafwyd y dyddiadau cyhoeddi o ffynonellau llyfrgell/archifau ac maent yn dilyn eu harferion hwy 
  • Mae’r lleoliad “TC” yn nodi bod copi o’r gwaith wedi argraffu neu ar ffurf llawysgrif i’w gael yn archif Tŷ Cerdd 
  • Pan na roddir lleoliad ar gyfer y llawysgrif, credir bod y gwaith yn cael ei gadw yng nghasgliad y cyfansoddwr (fel y nodir drwy’r Seithfed catalog o gerddoriaeth gyfoes Cymru, a gynhyrchwyd gan Robert Smith ar ran yr Urdd Er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru, 1981)
  • Bras yw’r hyd a nodir ar gyfer y darnau, a chafwyd y wybodaeth o wefannau
  • I gael rhagor o fanylion am recordiadau, gweler yr adran ar wahân ar y wefan hon 
  • Mae’r holl ddolenni parhaol/URLau wedi’u dolennu i’r cofnod unigol sy’n gysylltiedig â’r gwaith hwnnw 
  • Pan ddaethpwyd o hyd i wahanol argraffiadau o waith ar yr International Music Score Library Project (IMSLP), rhoddwyd dolen i’r cofnod
  • Pan fo’r gwaith ar gael ar hyn o bryd gan weisg Cymru, darparwyd y ddolen 
  • A fyddech cystal â rhoi gwybod i ni am ddolenni sydd ddim yn gweithio, neu os oes gennych wybodaeth wedi’i diweddaru i’w hychwanegu i’r catalog.
Cyfenw’r cyfansoddwrEnw cyntaf y cyfansoddwrBlwyddyn geniBlwyddyn marwTeitl y gwaithOfferyniaethCyhoeddwrDyddiad cyhoeddiHydRecordiadCBCDCTy CerddBangorCaerdyddLlGCIMSLP Gwefan cyhoeddi
Cyfenw’r cyfansoddwrEnw cyntaf y cyfansoddwrBlwyddyn geniBlwyddyn marwTeitl y gwaithOfferyniaethCyhoeddwrDyddiad cyhoeddiHydRecordiadCBCDCTy CerddBangorCaerdyddLlGCIMSLP Gwefan cyhoeddi